Self Catering Holiday Accommodation in Brecon, Wales

Welcome to Canal Bridge

Self Catering Accommodation in Brecon

Canal Bridge yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer eich gwyliau teuluol, aduniadau a dathliadau, neu i fod yn ganolfan i fwynhau'r atyniadau niferus sydd ar gael yn yr ardal ddilychwin hon o Gymru. Mae Camlas, Marina a Theatr Aberhonddu yn ddim mwy na thafliad carreg i ffwrdd, ac mae Canol y Dref ac Afon Wysg o fewn 2 funud o gerdded. Mae ei leoliad canolog, cyfleus yn ei wneud yn lle delfrydol i grwydro Bannau Brycheiniog, sy'n berffaith ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gan fod yma le i storio beiciau y gellir ei gloi, cyfleusterau golchi ac ystafell sychu. Mae'n llety hunanarlwyo ar gyfer hyd at 12 o bobl, gyda lle iddynt gysgu mewn 6 ystafell wely gyfforddus, gyda phob un gydag ystafelloedd ymolchi preifat. Dewch i ddarganfod yr ardal hardd hon lle y gallwch fod yn sicr o gael croeso cynnes a lle dymunol a chyfforddus i aros ynddo. Beth bynnag yw eich gofynion, byddwn yn gwneud ein gorau i helpu. Gellir trefnu arlwyo a phrydau i ddathlu achlysuron arbennig.

Adnewyddwyd y lle yn 2012
Cyfleusterau sy'n ystyriol o deuluoedd ac ystafell gemau
Llety ar gyfer 12 o bobl, 6 ystafell wely
Mynediad hawdd i ganol y dref, llwybr tynnu ar hyd y gamlas a llwybrau beicio - i gyd o fewn ychydig funudau o gerdded

YR ARDAL LEOL

  • Mae llawer i'w weld a'i wneud yn yr Ardal - o weithgareddau fel Brecon Beast, y daith flynyddol i feiciau mynydd, i ddigwyddiadau cerddorol megis Gŵyl Jazz Aberhonddu a'r Dyn Gwyrdd. Mae'r Gelli Gandryll yn cynnig ei gŵyl llenyddiaeth a chomedi enwog, tra mae nifer o Farchnadoedd Ffermwyr, Gwyliau Bwyd a Gwyliau Cwrw ar gael i ddiwallu diddordeb pawb!

  • Mae gan Canal Bridge gyfleusterau da ar gyfer beicio a gwyliau cerdded. Mae mynediad gwastad a lleoliad yng nghanol y dref yn golygu fod hwn yn lle ardderchog i ddechrau crwydro Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ohono. Mae yma gyfleusterau golchi, tap y tu allan a lle storio beiciau y gellir ei gloi, ynghyd ag ystafell sychu y tu mewn, cit trwsio beic mewn argyfwng, a phecyn cymorth cyntaf. Beth bynnag yw eich oed a'ch gallu, mae yna weithgareddau sy'n addas i bawb!

Lleoliad

Javascript is required to view this map.