Mae Canal Bridge yn dŷ ar wahân, sy'n cynnig holl gyfleusterau cartref cyfforddus, modern, gyda gwres canolog llawn a gwydro dwbl. Mae pedair o'r ystafelloedd gwely yn rhai en-suite, ac mae gan y ddwy arall eu hystafelloedd ymolchi preifat eu hunain. Mae'r holl ystafelloedd gwely wedi eu haddurno yn ddiweddar mewn lliwiau niwtral, ac mae ganddynt wardrob, cist ddillad, cypyrddau wrth ochr y gwely a chadeiriau ym mhob un, gyda bleindiau blacowt, a duvets o'r maint mwyaf ar y gwelyau dwbl. Mae gan yr en-suites bwyntiau eillio, gyda drychau a golau. Rhoddir dillad glân ar y gwelyau wedi i bobl gyrraedd, a bydd gobenyddion sbâr, blancedi a sychwr gwallt ar gael. Darperir tywel bath a thywel sychu dwylo ar gyfer pob gwestai.
Ar y llawr gwaelod mae lolfa fawr gyda lle i 12 eistedd ynddi, gyda theledu sgrin lydan 40" a thân nwy, gyda drysau Ffrengig yn arwain at gwrt preifat a diarffordd. Mae'r gegin yn helaeth ac yn ddelfrydol ar gyfer diddanu, gyda lle i 12 a mwy eistedd ynddi. Mae ynddi beiriant golchi llestri, peiriant golchi/sychu dillad, microdon, hob nwy a phopty trydan gyda ffan, oergell fawr a rhewgell o dan y cownter. Mae cot a chadair uchel ar gael os gofynnir amdanynt. Mae gan yr ystafell gemau fawr deledu sgrin lydan 40", gyda chwaraewr dvd a chonsol gemau Wii, Chwaraewr CD y gellir ei gysylltu ag IPod a bwrdd pŵl. Mae gennym ddewis eang o gemau, llyfrau a theganau ar gael. Gellir defnyddio'r ystafell gemau hefyd fel ystafell gyfarfod / gynadledda ac mae lle i 12 eistedd ynddi. Mae gan y llawr isaf ystafell gawod, sy'n ddelfrydol ar gyfer golchi pethau yn ogystal ag ardal sychu, gyda chyfleusterau hael ar gyfer hongian cotiau / dillad dal dŵr yn ogystal â rhesel esgidiau i sychu esgidiau a bŵts.
Mae gan yr ardal y tu allan farbeciw, bwrdd pren a seddi gyda Pharasol mawr. Mae'r gatiau pren sy'n cloi yn golygu bod y tu ôl i'r eiddo yn ddiogel, yn ddiarffordd ac yn ddelfrydol ar gyfer storio beiciau neu feiciau modur. Ceir darpariaeth i barcio pedwar car, gyda lle parcio ar y stryd gerllaw a maes parcio cyhoeddus mawr wedi'i leoli o fewn 1 munud o gerdded oddi yno. Lleolir y tŷ ar Gas Lane, lôn gul nad yw'n ffordd drwodd, sy'n arwain at Gamlas Aberhonddu. Nodwch fod Clwb Rygbi Aberhonddu wedi ei leoli gyferbyn, sy'n darparu cyfleusterau ar gyfer bwyd, diod, digwyddiadau mawr, bandiau byw a gwyliau cwrw go iawn. Mae croeso i anifeiliaid anwes sy'n ymddwyn yn dda. Cyfeiriwch at yr amodau a'r telerau.
Ar ôl cyrraedd byddwch yn derbyn Pecyn Croeso. Gallwch archebu eitemau o fwyd o siop groser cyn cyrraedd. Gellir darparu Pecynnau Cinio. Rhowch wybod i ni pryd y byddwch yn cyrraedd, er mwyn i ni allu eich croesawu'n bersonol.
Key Info
Facilities
-
Bath
-
Gardd
-
Barbeciw
-
Lle Parcio ar y safle
-
Bwrdd Bwyta
-
Peiriant golchi llestri
-
Cyfeillgar tuag at gŵn
-
Ardal Sychu
-
Ystafell Gemau
-
Cyfleusterau Bwyta y tu allan
-
Parcio
-
Gardd Breifat
-
Cawod
-
Peiriant Golchi
-
Peiriant sychu dillad
-
Llai na 10 munud i gerdded i'r dref
-
Ardal Olchi
-
Bwrdd gyda lle i'r Gwesteion i gyd eistedd wrtho
Rooms
Ystafell Wely 1
Mae Ystafell Wely 2
Mae gan Ystafell Wely 3
Mae gan Ystafell Wely 4
Mae gan Ystafell Wely 5
Mae gan Ystafell Wely 6
Cegin
Lolfa
Ystafell Gemau
Gemau a Llyfrau
Ystafell Sychu
Ystafell Gawod y Llawr Gwaelod
Y Cyntedd
Ardal y Cwrt
Ardal Storio Beiciau / Golchi
Parcio / blaengwrt
Ystafell Gawod
Ystafell Ymolchi
Gallery
Availability
Gwybodaeth am Archebu
Mae seibiannau 7 diwrnod yn mynd o ddydd Gwener i ddydd Gwener. Mae seibiannau byr 3 noson yn mynd o ddydd Gwener i ddydd Llun, mae seibiannau 4 noson yn mynd o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gellir archebu seibiannau byr trwy gydol y flwyddyn, ac eithrio'r Pasg, canol Gorffennaf/Awst, a'r Nadolig/y Flwyddyn Newydd. Mae angen blaendal o 25% wrth archebu, gyda'r taliad yn llawn chwe wythnos cyn cyrraedd. Mae unrhyw archebion a wneir o fewn chwe wythnos yn daladwy'n llawn wrth archebu.
Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, anfonwch e-bost atom a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.